Coleman: Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwrthod cais Hull

Chris Coleman Image copyright PA

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod Hull City wedi gwneud cais swyddogol i geisio denu rheolwr Cymru Chris Coleman i'r clwb.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas fod y penaethiaid wedi cynnal trafodaethau ac wedi penderfynu gwrthod y cais.

Fe wnaeth Coleman arwyddo cytundeb newydd ym Mai 2016 cyn cystadleuaeth Euro 2016 yn Ffrainc.

Ychwanegodd y llefarydd fod sylw pawb o fewn y Gymdeithas Bêl-droed wedi ei ffocysu ar gemau rhagbrofol ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018.

Fe fydd gem gyntaf Cymru yn y grŵp rhagbrofol yn erbyn Moldova yng Nghaerdydd ar 5 Medi.

Mae disgwyl i Chris Coleman gyhoeddi ei garfan ar gyfer y gem honno ar 25 Awst.