Cwyn fod y Cynulliad wedi 'torri rheol iaith' y Brifwyl

Neil Hamilton
Image caption Neil Hamilton ar y Maes ddydd Llun

Mae ffrae wedi codi ar Faes yr Eisteddfod yn dilyn cwyn bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi torri rheol iaith y Brifwyl.

Mewn digwyddiad a drefnwyd gan y sefydliad ddydd Llun, fe wnaeth arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, gyfrannu at drafodaeth yn Saesneg.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod hyn yn "destun pryder mawr" ac yn galw ar Lywydd y Cynulliad i sicrhau na fydd sefyllfa o'r fath yn digwydd eto.

Yn ôl y Cynulliad Cenedlaethol, roedden nhw'n credu'n "gwbl ddiffuant" bod y digwyddiad yn cydymffurfio â'r egwyddor mai'r iaith Gymraeg yw iaith yr Eisteddfod.

Dywedodd Mr Hamilton nad oedd yn gwybod "unrhywbeth am y rheol".

Image copyright Twitter
Image caption Trydar gan Neil Hamilton yn ystod y cyfarfod ar y Maes

Trafodaeth

Fe gododd y ffrae yn dilyn trafodaeth rhwng Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad i drafod syniadau ar gyfer y grŵp yn y dyfodol.

Oni bai am Mr Hamilton, sy'n dysgu'r iaith, roedd pob Aelod Cynulliad ar y panel yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Mae cyfansoddiad yr Eisteddfod yn dweud mai "yr iaith Gymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a'r Ŵyl ac ni fydd hawl newid y cymal hwn".

Roedd y digwyddiad yn "destun pryder mawr fod y rheol wedi ei thorri", meddai cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan.

Ychwanegodd: "Dylai'r Llywydd a'r Eisteddfod fod yn glir am hyn wrth i ddigwyddiadau gael eu trefnu.

"Hoffem ni dderbyn cadarnhad gan y Llywydd na fydd yn digwydd eto."

Rheol iaith

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n ymwybodol o reol iaith yr Eisteddfod, ac rydym wedi trafod y mater i'r rheol gael ei thorri yn y cyfarfod a drefnwyd ganddyn nhw ddoe.

"Mae amod ar y ffurflen gofrestru i gynnal gweithgaredd yn un o'r ddwy babell Cymdeithasau yn datgan mai'r Gymraeg yw iaith yr Eisteddfod, ac mae cymdeithasau a sefydliadau'n derbyn yr amodau hyn wrth wneud cais am sesiwn yn yr Eisteddfod."

Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad eu bod yn credu'n "gwbl ddiffuant fod y digwyddiad yn cydymffurfio â'r egwyddor mai 'yr iaith Gymraeg fydd iaith yr Eisteddfod a'r Ŵyl'".

Ychwanegodd: "Gwnaeth pedwar allan o bump o aelodau'r panel gyfrannu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, a gwnaeth y pumed, sy'n ddysgwr, rai cyfraniadau yn y Gymraeg ac roedd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Byddwn yn trafod y mater hwn ymhellach gyda swyddogion yr Eisteddfod."

Image caption Maes yr Eisteddfod yn y Fenni

'Ddim yn difaru'

Dywedodd Mr Hamilton: "Doeddwn i ddim yn gwybod unrhywbeth am y rheol hon.

"Cafodd y digwyddiad, yn amlwg, ei drefnu gan y Cynulliad a chefais wahoddiad gan gadeirydd y pwyllgor, Bethan Jenkins, i fod yn rhan o'r panel.

"Dywedais ar y dechrau... dydw i ddim yn siarad Cymraeg yn dda iawn ond rwy'n gwella a gobeithio y gallai fod yn rhugl maes o law.

"Fe wnes i ddangos parodrwydd, ond yn amlwg os oeddwn yno fel panelydd ac roedd aelodau o'r cyhoedd yn gofyn cwestiynau, roedd rhaid i mi ateb a hynny'n Saesneg."

Gofynnwyd i Mr Hamilton os oedd yn ymddiheuro am dorri'r rheol. Dywedodd: "Dydw i ddim am ymddiheuro. Dydw i ddim yn difaru oherwydd doeddwn ddim yn gwybod amdani a byddai'n hurt ei gweithredu gyda dim eithriadau o gwbl, yn enwedig i bwyllgor Cynulliad sy'n ddwyieithog."