Teulu o Gymru yn ennill £61 miliwn

loteri

Mae teulu o Sir Fynwy yn dathlu ennill £61 miliwn ar ôl cipio'r jacpot yng nghystadleuaeth loteri Euromillions.

Cafodd canlyniad y loteri ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Mae'r enillwyr yn rhan o syndicet teuluol, ond does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Bydd yr enillwyr yn wynebu'r cyfryngau yfory.

Cyfanswm union y wobr yw £61,102,422.90.

Dywedodd llefarydd ar ran y Loteri Genedlaethol: "Mae'n fuddugoliaeth anhygoel yn y DU - y bedwaredd gwaith i rywun ennill y jacpot EuroMillions yma eleni.

"Rydym wrth ein bodd bod perchennog y tocyn buddugol wedi ymddangos er mwyn hawlio eu gwobr.

- a chymryd eu safle ymhlith y rhestr o'r enillwyr mwyaf erioed - a hynny yn y degfed safle.

Fe lwyddodd yr enillwyr ddewis 5 rhif cywir sef 01, 21,26, 40 a 50 a dau rif ychwanegol- 02 a 04."