Gohirio cwest i fam 22 oed o Benygroes

Emma Louise Baum

Mae crwner wedi gohirio cwest i farwolaeth mam 22 oed o Wynedd er mwyn caniatáu i achos llofruddiaeth gael ei gynnal yn gyntaf.

Bu farw Emma Baum o Benygroes, ger Caernarfon, yn ei chartref fis diwethaf.

Dywedodd Dewi Pritchard-Jones ei fod wedi derbyn cyfarwyddwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron fod achos troseddol yn cael ei baratoi yn erbyn dyn 25 oed.