Prop Cymru, Rob Evans i fethu dechrau'r tymor newydd

Rob Evans Image copyright Huw Evans picture agency

Bydd prop Cymru a'r Scarlets, Rob Evans yn methu dechrau'r tymor newydd ar ôl cael llawdriniaeth ar anaf i'w arddwrn.

Mae Evans wedi cael llawdriniaeth ac mae'n bosib na fydd yn chwarae nes mis Tachwedd.

Chwaraeodd Evans am y tro diwethaf i Gymru ar y daith i Seland Newydd ym mis Mehefin.

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac bod Evans wedi cael yr anaf yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a'i fod yn annhebygol o chwarae tan gemau'r hydref.