Teulu o Fynwy'n dathlu ennill £61m yn y loteri

EuroMillions Image copyright PA

Mae teulu o Fynwy wedi dweud eu bod yn "byw'r freuddwyd" ar ôl ennill mwy na £61m yn loteri'r EuroMillions.

Fe lwyddodd y teulu Davies i ddewis pum rhif cywir sef 01, 21, 26, 40 a 50 a dau rif ychwanegol, 02 a 04.

Mae Sonia Davies, 53, ei phartner Keith Reynolds, 55, a'i merched Courtney, 19, a Stephanie, 23, yn dathlu'r fuddugoliaeth gyda phartner Stephanie, Steve Powell, 30.

Cafodd y teulu eu datgelu fel yr enillwyr yng ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd ddydd Mercher.

Union gyfanswm y wobr yw £61,102,422.90.

Image copyright PA