Cyfarwyddwr addysg cyngor wedi marw mewn damwain seiclo

Jennifer Hill Image copyright Cyngor Bro Morgannwg

Bu farw cyfarwyddwr addysg Cyngor Bro Morgannwg, Jennifer Hill mewn damwain seiclo yn Ffrainc.

Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth Ms Hill ddisgyn i geunant ym mynyddoedd y Pyrenees ger y ffin â Sbaen ddydd Sul.

Fe wnaeth Ms Hill ymuno â'r cyngor yn 2012.

Mae ei theulu wedi ei disgrifio fel "mam ffyddlon a gwraig hoff".

"Rydyn ni mor falch o'i ymroddiad i'w gwaith a'i llwyddiannau yn y Fro ac yn gynharach yn ei gyrfa," meddai'r teulu mewn datganiad.

Dywedodd Rob Thomas o Gyngor Bro Morgannwg: "Roedd gwaith Jennifer yn cael ei edmygu yn bell tu hwnt i Fro Morgannwg, ac mae ei marwolaeth yn golled fawr i'w proffesiwn."