Dechrau gwych i Lukas Carey yn ei gêm gyntaf i Forgannwg

lukas carey

Mae Lukas Carey wedi cymryd tair wiced yn ystod ei gêm gyntaf i Forgannwg.

Fe gymerodd y bowliwr 19 oed dair wiced am 37 rhediad wrth i Forgannwg gyfyngu Swydd Northampton i 108 am bedwar ar ddiwrnod cyntaf y gêm bencampwriaeth yn Abertawe.

Roedd hi'n ddiwrnod diflas i'r cefnogwyr fodd bynnag wrth i law amharu ar y chware ar faes Sain Helen.

Fe ddewisodd yr ymwelwyr fatio, ond roedd y bowlwyr, ac yn enwedig Carey, yn rheoli'r sefyllfa yn ystod y pelawdau cyntaf.

Ond yn ystod y prynhawn fe frwydrodd Northampton yn galed ac erbyn diwedd y dydd roedd Laurie Evans wedi cyrraedd 42 heb fod allan.