Dadl gyntaf Jeremy Corbyn ac Owen Smith yng Nghaerdydd

Jeremy Corbyn ac Owen Smith Image copyright PA/Getty
Image caption Dyma fydd y tro cyntaf i Jeremy Corbyn ac Owen Smith wynebu ei gilydd yn y ras i arwain y blaid

Bydd y ddau ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur yn mynd benben â'i gilydd mewn dadl yng Nghaerdydd nos Iau.

Dyma fydd y tro cyntaf i Jeremy Corbyn ac Owen Smith wynebu ei gilydd yn y ras i arwain y blaid.

Bydd cyfanswm o naw dadl yn cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig yn ystod yr ymgyrch, gyda chwech ohonyn nhw eisoes wedi'u trefnu.

Fe fydd aelodau Llafur a'r cyhoedd yn cael bod yno i holi'r ymgeiswyr, ac am y tro cyntaf bydd y ddadl yn cael ei darlledu'n fyw ar-lein.

Bydd y papurau pleidleisio yn cael eu danfon allan ddiwedd y mis, gyda'r canlyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi mewn cyfarfod arbennig cyn cynhadledd flynyddol y blaid yn Lerpwl ddiwedd mis Medi.

Mewn datblygiad arall, bydd rhai aelodau sydd wedi'u gwahardd rhag pleidleisio, er bod nhw'n aelodau o'r blaid, yn mynd i'r Uchel Lys i herio'r penderfyniad.

Mae'r grŵp yn dweud bod hynny'n annheg gan nad ydyn nhw'n cael cymryd rhan yn yr etholiad oherwydd iddyn nhw ymuno â'r blaid ar ôl 12 Ionawr eleni.