Agor cwest wedi marwolaeth bachgen, 4, mewn tân

Jac Davies Image copyright Llun y teulu

Mae cwest wedi'i agor a'i ohirio i farwolaeth bachgen pedair oed mewn tân yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Bu farw Jac Davies yn y tân yng nghartref ei deulu yn Alltwen ar 27 Gorffennaf.

Clywodd Llys Crwner Abertawe ddydd Iau bod yr heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Fe wnaeth y crwner Colin Phillips ganiatáu tystysgrif marwolaeth dros dro, sy'n golygu y gall y teulu nawr ddechrau trefnu angladd.

Bydd gwrandawiad cyn-gwest yn cael ei gynnal ar 25 Ionawr 2017.