Abertawe i arwyddo enillydd Cwpan y Byd

Llorente

Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cytuno i arwyddo ymosodwr Sbaen Fernando Llorente o glwb Sevilla.

Roedd Llorente yn rhan o garfan Sbaen enillodd Gwpan y Byd yn 2010 ac Euro 2012. Fe fydd yn cael prawf meddygol gydag Abertawe ddydd Gwener.

Deellir bod cyn chwaraewr Athletic Bilbao a Juventus yn arwyddo cytundeb dwy flynedd yn Stadiwm Liberty.

Enillodd y chwaraewr 31 oed nifer o fedalau gyda Juventus, gan gynnwys Serie A deirgwaith.