Gorsedd Llydaw: 'chwaer fach i un Cymru'

Cyrn Gwlad
Image caption Cafodd seremoni urddo ddiweddaraf yr Orsedd ei chynnal yn Y Fenni fore Gwener

Dydd Gwener ar faes yr Eisteddfod Y Fenni fe groesawyd yr aelodau diweddaraf i'r Orsedd.

Ond mae'r traddodiad sydd yn dyddio nôl canrifoedd i gyfnod Iolo Morgannwg hefyd wedi ymledu i rai o'r gwledydd Celtaidd eraill erbyn heddiw.

Mwy o'r Eisteddfod Genedlaethol ar BBC Cymru Fyw

Mae Greg Moign yn fyfyriwr o Brifysgol Brest sydd yn gwneud gwaith ymchwil ar yr Orsedd yn Llydaw, ac mae'n dweud bod ei dyled yn enfawr i'r Cymry.

"Does dim Gorsedd yn Llydaw heb yr Orsedd Gymreig - mae Gorsedd Llydaw yn ferch i Orsedd Cymru," meddai.

'Cerrig go iawn!'

Mae'r Orsedd yn Llydaw wedi cael ei sefydlu ers dros ganrif bellach, ac yn debyg i'r traddodiad Cymreig mae aelodau newydd yn cael eu hurddo bob blwyddyn.

Ond mae teimlad mwy paganaidd i'w seremoni nhw na'r hynny a geir ar faes yr Eisteddfod, yn ôl Greg Moign.

"Mae'r Orsedd yn cael ei chynnal yn yr haf, mae'n gyhoeddus, mae yn y wlad, yn y goedwig, gyda chylch o gerrig go iawn, nid rhai plastig!" esboniodd.

"Mae o bosib yn fwy ysbrydol, yn ymwneud mwy â natur.

"Mae gennym ni symbolau tebyg hefyd fel y cleddyf, beth sy'n cael ei ddweud yn y seremoni, a chloi'r seremoni gyda'r anthem genedlaethol, 'Bro Gozh ma Zadou'."

Peth arall sydd yn wahanol am yr Orsedd yn Llydaw yw nad oes rheol iaith fel yr un a geir yng Nghymru.

"Yn Llydaw, gall unrhyw un [fod yn yr Orsedd], nid dim ond os ydych chi'n siarad Llydaweg - os ydych chi eisiau brwydro dros eich gwlad a'ch diwylliant, dyna'r oll, mae hynny'n haws," meddai.

Image caption Greg Moign yn ymweld â'r Eisteddfod yn Y Fenni yr wythnos hon

Un fu draw yn seremoni'r Orsedd yn Llydaw eleni yw Penri Richards, Cofiadur yr Orsedd yng Nghymru.

"Mae croeso cynnes iawn, iawn yno," meddai, cyn sôn am rai o'u traddodiadau unigryw.

"Maen nhw'n rhannu medd allan o'r corn hirlas. Y peth arall sydd ganddyn nhw ydi sach o uchelwydd, ac maen nhw'n rhannu'r uchelwydd yma gydag aelodau'r Orsedd a phobl sydd wedi dod i weld y seremoni.

"Lle mae'n seremoni ni - Gweddi'r Orsedd ac yn y blaen - yn seiliedig ar y ffydd Gristnogol, mae eu gweddi Orsedd nhw i'r 'duwiau'."

Mae'n pryderu fodd bynnag bod y niferoedd yng Ngorsedd Llydaw yn disgyn, a'i bod yn wynebu dyfodol ansicr.

"Eu problem fwyaf nhw ydi nad ydi eu Gorsedd nhw'n gysylltiedig â gŵyl, ac felly maen nhw'n encilio i rhyw gae bach yng nghanol y wlad, ac ychydig o bobl sydd yn gwybod fod 'na Orsedd ymlaen," esboniodd Penri Richards.

"Dw i'n meddwl fod yn rhaid iddyn nhw feddwl o ddifrif am beth sydd angen ei wneud i gael pobl ifanc i mewn, achos mae'n fater o bleser i mi bod cymaint o bobl yn dod drwyddo bob blwyddyn [yng Nghymru]."

Profi'r maes

Bu Greg Moign yn Y Fenni yr wythnos hon yn ymweld â maes yr Eisteddfod a chael blas ar seremoni'r Orsedd, ac mae'n teimlo y byddai Llydaw yn elwa'n fawr o gael gŵyl debyg.

"Fan hyn mae'r seremoni [urddo] yn brydferth, mae rhywbeth crefyddol amdani, weithiau mae fel petawn i mewn eglwys," meddai.

"Pan welais i'r Archdderwydd ar y llwyfan roedd o i weld yn foi doniol iawn, pawb yn chwerthin!

"Mae gennym ni ŵyl Pan-geltaidd yn Llydaw, sydd yn debyg, ond mae'n neis iawn bod yn yr Eisteddfod a gweld pleidiau gwleidyddol, pethau diwylliannol, lot o bethau diddorol fel cynadleddau.

"Fe allen ni fod yna drwy'r dydd!"