Corbyn yn hawlio cefnogaeth Cymru

merthyr
Image caption Jeremy Corbyn yn areithio yng nghanol Merthyr Tudful

Mae'r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn yn hawlio fod ganddo gefnogaeth gref yng Nghymru , wrth iddo frwydro yn erbyn Owen Smith i gadw ei swydd.

Bu Mr Corbyn yn ymweld â Merthyr Tudful er mwyn lansio ei ymgyrch Gymreig - ac fe ddenodd dorf o roi cannoedd wrth iddo areithio yno.

"Ennill yw ein nod," meddai. "Rydym wedi trechu'r llywodraeth sawl gwaith yn San Steffan ac o fewn blwyddyn rydym wedi ennill pedwar isetholiad.

"Gyda ni, fydd neb yn eich cymuned yn cael eu gadael ar ôl."

Mewn datblygiad arall fodd bynnag mae undeb Community wedi enwebu ei wrthwynebydd, Owen Smith.

Yn ôl Roy Rickuss, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb : "Mae ein haelodau angen plaid Lafur sydd yn siarad â nhw, ac i'r wlad yn ehangach hefyd.

"Mae arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yn rhwystr i gael llywodraeth lafur yn y dyfodol.

"Mae'n amlwg na all e arwain plaid, ac mae ei bresenoldeb yn gwneud ein tasg o ennill etholiad yn anoddach."