Brwydr Morgannwg ar Sain Helen

sain helen

Mae Morgannwg yn brwydro i achub y gêm bencampwriaeth yn erbyn sir Northampton.

Ar ddiwedd trydydd diwrnod y gêm bencampwriaeth yn Sain Helen roedd yr ymwelwyr wedi sgorio 230 am 7, mantais o 315 o rediadau hyd yma.

Roedd Morgannwg i gyd allan am 236 yn eu batiad cyntaf mewn ymateb i gyfanswm o 321.

Unwaith eto Lukas Carey oedd bowlir gorau Morgannwg wrth iddo gipio pedair wiced am 77 rhediad.