Abertawe yn arwyddo Llorente

Llorente

Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi arwyddo ymosodwr Sbaen Fernando Llorente o glwb Sevilla.

Fe fydd y chwaraewr 31 oed yn gwisgo'r crys rhif naw ar ôl arwyddo cytundeb dwy flynedd.

Fe wnaeth yr ymosodwr sgorio saith gwaith mewn 36 o gemau i Sevilla y tymor diwethaf.

Roedd Llorente yn rhan o garfan Sbaen enillodd Gwpan y Byd yn 2010 ac Euro 2012.