Caerdydd yn brwydro am bwynt yn Birmingham

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Frederic Gounongbe yn brwydro am y bêl yn ei ymddangosiad cyntaf i Gaerdydd

Birmingham 0-0 Caerdydd

Mae tymor newydd Caerdydd wedi dechrau gyda pherfformiad addawol yn Birmingham.

Bu'r adar gleision yn rheoli'r gêm am gyfnodau hir - ond fe wastraffodd tîm y brifddinas sawl cyfle i sgorio yn yr hanner cyntaf.

Roedd yna berfformiadau gweithgar gan Lex Immers ac Anthony Pikington wrth i'r ddau, ar y cyd a'r ymosodwr newydd Frederic Gounongbe, fygwth gôl Birmingham.

Fe gafodd Birmingham ambell gyfle tua diwedd yr ail hanner ond roedd amddiffynfa yn gadarn wrth i'r tîm cartref bwyso.