Wrecsam 0-0 Dover

Mae Wrecsam wedi sicrhau pwynt ar ôl dechrau rhwystredig i'r tymor ar y Cae Ras.

Bydd cefnogwyr Wrecsam yn fodlon a'r canlyniad fodd bynnag, gan fod Dover Athletic - un o dimau gorau'r adran -wedi rheoli'r chwarae.

Fe darodd Wrecsam gefn y rhwyd unwaith - ond fe benderfynodd y dyfarnwr beidio â chaniatáu'r gol.

Roedd dros 5 mil o gefnogwyr yno i gefnogi'r Dreigiau.