Crasfa i Forgannwg yn Abertawe

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sir Northampton yn dathlu yn Abertawe

Mae Morgannwg wedi cael crasfa yn Sain Helen - ar ôl iddyn gael eu bowlio allan am 95 rhediad.

Roedd Morgannwg yn ymateb i gyfanswm sylweddol Sir Northampton ar ol i'r ymwelwyr gwblhau eu hail fatiad ar ôl cyrraedd 261 am 9.

Fe ddinistriwyd batio Morgannwg gan fowlio Ben Sanderson.

Fe gymerodd e 7 wiced am 22 rhediad - ei berfformiad gorau erioed.

Roedd Morgannwg yn anelu at gyfanswm o 347 i ennill, ond ar ol cael eu cyfyngu i 12 am 4 ar un adeg, doedd ganddyn nhw ddim gobaith.