Geraint Thomas yn disgyn yn y Gemau Olympaidd

Image caption Nibali yn disgyn eliadau cyn i Geraint Thomas gael damwain

Mae Geraint Thomas wedi disgyn allan o'r Gemau Olympaidd ar ôl iddo gwympo oddi ar ei feic ar gornel beryglus.

Roedd Thomas mewn sefyllfa addawol yn y ras ffordd yn Rio pan ddigwyddodd y ddamwain.

Yn gynharach fe adawodd Thomas y peleton mewn grŵp a oedd yn cynnwys y ffefryn Vincenzo Nibali.

Ond fe gafodd ei wahanu oddi wrth y ddau Brydeiniwr arall Chris Froome ac yn Adam Yates.

Tua 10km fe ddisgynodd Thomas, Nibali a sawl un arall wrth iddyn nhw agoshau at ddiwedd cwrs heriol a pheryglys.

Image caption Crys Geraint Thomas wedi'i rwygo ar ddiwedd y ras

Fe enillwyd y fedal aur gan Greg Van Avermaet o Wlad Belg.

Fe ddychwelodd Thomas i'w feic, ac fe orffennodd y ras yn ddiogel, o flaen Chris Froome ac Adam Yates.

Image copyright Getty Images
Image caption Greg Van Avermaet yn dathlu