Dechrau sigledig Joe Cordina

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Cordina yn ymladd yn y categori 60kg

Mae'r Cymro Joe Cordina wedi ennill ei frwydr gyntaf yn sgwâr bocsio Rio de Janeiro.

Fe gurodd e Charlie Suarez o'r Pilipinas yn dilyn dyfaniad rhanedig y beirniaid.

Yn ôl Cordina roedd ei frwydr gyntaf mewn cystadleuaeth yn sigledig bob tro: " Fe ges i ddyfarniad rhanedig ond rwy'n credu nes i ennill pob rownd.

"Yr un gyntaf yw'r un sigledig i fi bob tro, ac roeddwn i'n ymladd yn erbyn bocsiwr da, Charlie Suarez.

Bydd Cordina yn wynebu Hurshid Tojibaev o Uzbekistan yn rownd yr 16 olaf ddydd Mawrth.