Gwrthdrawiad: Dim achos yn erbyn mam bachgen

Gwrthdrawiad

Mae cyhuddiad yn erbyn mam o achosi marwolaeth ei mab pum mlwydd oed mewn gwrthdrawiad car wedi ei ollwng.

Bu farw'r bachgen, Joseph Smith mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar Rodfa'r Gorllewin, Caerdydd ym mis Medi 2015.

Roedd Laura Bright, 23 oed, o Laneirwg, wedi cael ei chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth y plentyn, ond gollyngwyd yr achos yn ei herbyn yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Mae ei phartner, Dean Collins, 22 oed, yn gwadu achosi marwolaeth ac anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.

Mae disgwyl iddo sefyll ei brawf ym mis Rhagfyr.

Image caption Joseph Smith