Abertawe'n rhoi cytundeb newydd i Angel Rangel

Angel Rangel Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Angel Rangel wedi chwarae dros 300 o gemau dros Abertawe

Mae'r amddiffynnwr Angel Rangel wedi arwyddo estyniad i'w gytundeb gydag Abertawe tan 2018.

Dywedodd y Sbaenwr 33 oed ei fod yn "benderfyniad hawdd" i aros, a'i fod yn gobeithio aros hyd yn oed yn hirach na'r ddwy flynedd nesaf.

Fe gollodd Rangel ei le fel cefnwr dde dewis cyntaf y tîm llynedd i Kyle Naughton, ond chwaraeodd yn rheolaidd tua diwedd y tymor.

Mae eisoes wedi bod gyda'r clwb ers naw mlynedd ar ôl arwyddo o glwb Terrassa yn 2007.

"Dyma fy nghartref i nawr. Bydd y cytundeb yma'n mynd â mi at 11 o flynyddoedd yma [yn Abertawe] a dwi mor falch o hynny," meddai.

"Mae gen i deulu Cymreig a dwi'n teimlo fel mod i'n nabod y ddinas a'r wlad bellach."