Sefydlu grŵp i gynghori'r llywodraeth ar Brexit

cymru eu

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp i sicrhau'r "canlyniad gorau posibl" o'r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Grŵp Cynghori ar Ewrop am gynnwys pobl o fyd busnes a gwleidyddiaeth yn ogystal ag arbenigwyr ar yr undeb.

Bydden nhw'n cynghori'r llywodraeth ar yr effaith ar Gymru wedi'r bleidlais ac ar sut i "oresgyn heriau" i sicrhau dyfodol "ffyniannus" i'r wlad.

Mae Carwyn Jones wedi gofyn am "ymrwymiad sicr" na fydd Cymru'n "colli ceiniog" o arian yr UE sydd wedi ei gyllidebu tan 2020.

Dywedodd y prif weinidog hefyd ei bod yn "hanfodol" cael mynediad "di-dor" at y farchnad sengl.

"Fy nghyfrifoldeb i yw llywio dyfodol Cymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd - ac rwy'n llawn sylweddoli pwysigrwydd y cyfrifoldeb hwn," meddai Mr Jones.

"Byddaf yn cadw llygad barcud ar y ffordd y bydd gadael yr UE yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl Cymru.

"Bydd y grŵp cynghori yn ein helpu i ddeall y gwir effaith ar ein trefi, ein pentrefi, ein cymunedau ffermio, ein sefydliadau addysg, ein busnesau, ein trydydd sector a'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol."

Mae'r gwahoddiadau i ymuno â grŵp Cynghori Ar Ewrop wedi cael eu dosbarthu ond does dim ymatebion wedi eu derbyn eto, a dyma pam nad oes unrhyw enwau wedi eu cyhoeddi hyd yma.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio nad yw hwn yn grŵp gwleidyddol. Mae gweinidogion eisiau clywed wrth ymgynghorwyr gydag arbenigedd a phrofiad yn hytrach na chasglu safbwyntiau o blaid ac yn erbyn aros yn yr EU, yn ôl un o'i swyddogion.

'Heriau'

Bydd Plaid Cymru hefyd yn rhan o'r trafod i adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda phwyllgor yn cael ei sefydlu i ddelio â'r mater.

Mae hyn yn rhan o'r cytundeb sy'n cadw'r blaid Lafur mewn grym ym Mae Caerdydd.

Ychwanegodd Mr Jones: "Er gwaethaf yr heriau a wynebwn, rydyn ni'n barod i dorchi ein llewys a llywio dyfodol Cymru mewn byd sy'n newid.

"Byddwn ni'n sicrhau bod ein buddiannau cenedlaethol wedi'u pennu'n glir a bod Cymru'n cael y canlyniad gorau sy'n bosibl."

Mae'r ddwy blaid eisoes wedi sefydlu pwyllgorau ar gyllid, deddfwriaeth a'r cyfansoddiad.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Rydym wedi ein hymrwymo i sicrhau bod Cymru'n llwyddiannus, er gwaethaf yr heriau rydym yn wynebu."

'Oedi'

Ond mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynullid, wedi beirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i'r sefyllfa, gan ddweud fod gormod o oedi wedi bod.

"Mae'r brysio munud olaf i chwilio am syniadau yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei gynllunio yn yr wythnosau yn arwain at y refferendwm.

"Mae'n bechod mai dim ond nawr mae'r prif weinidog yn ymgynghori gyda'r gymuned fusnes ar y mater hanfodol hwn.

"Gan ystyried iddo ond cwrdd â naw o arweinwyr busnes cyn y bleidlais, mae'n dangos ei fod wedi cymryd y bleidlais yn ganiataol."

Dydd Mercher diwethaf, fe wnaeth academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd gyhuddo Llywodraeth Cymru o ymateb yn "wan" i'r heriau sydd yn wynebu'r wlad wedi Brexit.

Mewn trafodaeth ar faes yr Eisteddfod dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones y dylai'r llywodraeth edrych o'r newydd ar flaenoriaethau ariannol.