Gemau Olympaidd y bocsiwr Joe Cordina ar ben

Joe Cordina Image copyright Getty Images

Mae ymgyrch Olympaidd y bocsiwr o dde Cymru, Joe Cordina ar ben wedi iddo golli ar ddyfarniad mwyafrifol yn erbyn Hurshid Tojibaev o Uzbekistan.

Roedd y paffiwr pwysau ysgafn yn symud yn dda yn yr ornest, ond ni lwyddodd i lanio unrhyw ergydion o safon ar ei wrthwynebwr.

Roedd yr ornest yn hafal ar ôl y rownd gyntaf, ond fe wnaeth Tojibaev ennill y ddwy rownd olaf yn gyfforddus.

Mae hi'n bosib mai dyma ornest olaf y gŵr 24 oed fel amatur, gyda disgwyl iddo droi'n broffesiynol yn dilyn y gemau.