Galw am sefydlu coleg Cymraeg i'r de ddwyrain

Coleg yng Nghymru

Mae pennaeth un o golegau Cymru yn galw am sefydlu coleg addysg bellach cyfrwng Cymraeg yn y de ddwyrain.

Dywed John O'Shea, sydd yn bennaeth Coleg Merthyr, y byddai hyn yn un ffordd o geisio cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cafodd yr ymgyrch i gyrraedd y nod yma ei lansio ar faes y Brifwyl yn y Fenni gan y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg.

Dywedodd Mr O'Shea wrth Cymru Fyw: "Os ydyn ni eisiau bod mewn sefyllfa lle mae gyda ni filiwn o siaradwyr Cymraeg mae angen i ni ddechrau meddwl am syniadau gwahanol.

"Mae gyda ni ysgolion Cymraeg ond dydyn ni ddim yn llwyddo i dorri trwodd er mwyn cael mwy yn siarad yr iaith.

"Mae angen i ni feddwl am wneud rhywbeth yn wahanol a chynnig gwell cyfleoedd.

"Dyw hi ddim yn teimlo'n iawn fod myfyrwyr cyfrwng Cymraeg ddim yn cael yr un cyfleoedd a myfyrwyr cyfrwng Saesneg i astudio ystod eang o gyrsiau mae colegau yn cynnig.

"Yn fy marn i os nad ydyn ni yn cael cydraddoldeb ar gyfer y Gymraeg yna mae'r cyfleoedd i'r Gymraeg ddatblygu a thyfu yn lleihau."

Image copyright Coleg Merthyr
Image caption John O'Shea

Ar hyn o bryd os yw disgyblion ôl 16 eisiau astudio cwrs galwedigaethol neu lefel A mewn coleg addysg bellach yn y de ddwyrain dim ond rhai cyrsiau sydd ar gael yn y Gymraeg meddai Mr O'Shea.

Ychwanegodd nad oes yna'r un ystod eang o bynciau ar gael mewn ysgolion Cymraeg

Dywedodd: "Dw i'n meddwl i ddechrau byddai angen i ni ffeindio lleoliad yng nghanol de ddwyrain Cymru lle y byddech chi yn gallu dod a'r holl staff sydd yn siarad Cymraeg at ei gilydd a'r holl fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg.

"Ar y funud does yna ddim digon o niferoedd i sefydlu nifer o golegau.

"Ond wrth iddo lwyddo yna wrth gwrs byddai modd cynnig mwy o amrywiaeth a chael mwy o golegau mewn mwy o leoliadau lleol."

Yn ôl pennaeth Coleg Merthyr mae hefyd angen cynyddu nifer y cyrsiau Cymraeg ar gyfer oedolion mewn colegau.

Mae cydnabod mai un cynnig yn unig yw hyn er mwyn ceisio adfywio'r iaith mewn ardal boblog: "Syniad yw hyn. Dw i'n siŵr fod gan bobl eraill syniadau gwahanol, diddorol.

"Ond dw i'n meddwl bod gwerth edrych ar y syniad a gweld os gallai weithio, sut y gallai weithio, lle fyddai'r lle gorau i roi'r coleg."

'Pawb i ddweud eu dweud'

Mae Iestyn Davies, Prif Weithredwr Colegau Cymru, yn cytuno bod y syniad yn un gwerth ei ystyried.

Dywedodd bod cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn mynd i fod yn her a bod angen edrych ar sawl opsiwn er mwyn ceisio cyrraedd y nod yma.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym am i bawb gael cyfle i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar i addysg uwch, a bod hyn yn cael ei weld fel rhan annatod o'r ddarpariaeth gyffredinol yn hytrach na rhywbeth ar wahân.

"Mae'r ymgynghoriad miliwn o siaradwyr yn gyfle i bawb ddweud eu dweud ar ddyfodol yr hyn y gellid ei galw'n ased gorau'r wlad.

"Rydym yn hyderus y bydd yn ein galluogi i symud yr iaith yn ei blaen mewn ffordd ragweithiol a chymesur."