Ymchwiliad i wrthdrawiad bws yn Ffrainc yn parhau

bws

Mae BBC Cymru ar ddeall na fydd ymchwiliad i ddamwain bws o Gymru yn nwyrain Ffrainc yn cael ei gwblhau cyn mis Medi.

Fe aeth bws o eiddo cwmni Express Motors, o Benygroes, Gwynedd ar ei ben i ffos ar draffordd ger Lons-le-Saunier, ger y ffin â'r Swistir ar 23 Gorffennaf.

Cafodd y ddau yrrwr eu holi gan yr heddlu yn Ffrainc, tra bod ymchwiliad arall yn cael ei gynnal yn y DU.

Roedd y bws yn cario myfyrwyr o ysgol yn Sir Gaerloyw.

Image copyright @paulette59553

Dywedodd y gyrrwr wrth yr awdurdodau ei fod wedi gwyro oddi ar y ffordd wrth chwilio am ei sbectol haul.

Ond dywedodd erlynwyr nad oedd ei esboniad yn argyhoeddiadol iawn a'u bod yn credu ei fod wedi syrthio i gysgu wrth y llyw.

Dywedodd yr heddlu nad oedd cerbydau eraill yn rhan o'r gwrthdrawiad, ac nid oes unrhyw achosion cyfreithiol wedi eu dwyn.

Roedd 42 o fyfyrwyr - rhwng 14 a 18 oed - yn teithio ar y bws yn ogystal â chwe aelod o staff Ysgol Bournside yn Cheltenham.