Damwain Kavos: Llanc yn cael hedfan adref i'r DU

Harri Jones Image copyright Shane Tarpey

Mae dyn a gafodd ei adael mewn coma yn dilyn damwain beic cwad ar yr ynys Roegaidd, Corfu, wedi cael ei hedfan adref i'r DU.

Mae Harri Jones, sy'n 18 oed ac yn dod o Wrecsam, bellach mewn ysbyty yn Stoke ar ôl ymgyrch i godi arian i'w hedfan yn ôl i'r DU.

Mae'n debyg fod Mr Jones, bellach wedi dechrau ymateb i gwestiynau ac wedi symud ei freichiau a choesau.

Dioddefodd anafiadau difrifol i'w benglog yn dilyn damwain fis diwethaf.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar y noson gyntaf ar ei wyliau tramor cyntaf gyda'i ffrindiau yn Kavos.