Guiseley 2-3 Wrecsam

pel-droed Image copyright Getty Images

Fe sgoriodd Paul Rutherford gôl anhygoel yn ystod amser ychwanegol, er mwyn sicrhau buddugoliaeth gyntaf Wrecsam o'r tymor yn y Gynghrair Genedlaethol.

Roedd Guiseley yn edrych i sicrhau gêm gyfartal pan sgoriodd Jake Lawler wedi 84 munud.

Ond fe ddaeth rhediad gwych gan Rutherford, ac ergyd bwerus gyda'i droed dde, a gobeithion y tîm cartref i ben.

Roedd Wrecsam wedi ymateb yn gynharach i gic rydd wedi 10 munud o chwarae, pan sgoriodd Michael Rankine, ond fe roddodd goliau gan John Rooney a Gerry McDonagh y fantais yn ôl i'r ymwelwyr.