Athletwraig yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio

Lauren Jeska

Mae cyn-athletwraig o Bowys wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn mewn stadiwm athletau yn Birmingham.

Fe wnaeth Lauren Jeska, 41 oed o Fachynlleth, ymddangos yn Llys y Goron Birmingham trwy gyswllt fideo o Garchar Foston Hall yn Sir Derby.

Cafodd Ms Jeska ei chyhuddo o geisio lladd Ralph Knibbs, 51 oed, yn Stadiwm Alexander ym mis Mawrth.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i'r stadiwm yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Mae hi hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o glwyfo gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol i ddau ddyn arall, ac o fod â thair cyllell yn ei meddiant mewn man cyhoeddus.

Fe gafodd Ms Jeska ei chadw yn y ddalfa i ymddangos yn y llys i gyflwyno ple ar 30 Awst.

Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Stadiwm Alexander yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu