Cymro 15 oed yn torri record a serennu i Gaerwysg

Ethan Ampadu Image copyright Getty Images

Mae Cymro 15 oed wedi serennu ar ei ymddangosiad cyntaf erioed dros ei glwb.

Ethan Ampadu oedd seren y gêm wrth iddo chwarae gêm lawn dros Gaerwysg yn eu buddugoliaeth o 1-0 dros Brentford yng Nghwpan y Gynghrair nos Fawrth.

Wrth wneud hynny fe dorrodd record y clwb fel eu chwaraewr ieuengaf erioed, ag yntau'n 15 mlynedd, 10 mis a 26 diwrnod oed.

Mae Ampadu eisoes wedi cynrychioli tîm dan-17 Cymru, er ei fod hefyd yn gymwys i chwarae dros Loegr, Gweriniaeth Iwerddon a Ghana.

Roedd hefyd yn gapten ar y tîm dan-16 a lwyddodd i ennill tarian y Victory Shield am yr ail waith yn olynol yn 2015.

Mae ei fam yn dod o Gymru ac fe dreuliodd ei dad, Kwame Ampadu gyfnod yn chwarae dros Abertawe yn y 1990au.

Image copyright Getty Images