Everton yn arwyddo Ashley Williams o Abertawe

Ash

Mae Clwb Pêl-droed Everton wedi arwyddo capten Cymru, Ashley Williams.

Y gred yw bod Everton wedi talu £12m am Williams, sydd wedi arwyddo cytundeb tair blynedd o hyd fydd yn ei gadw gyda'r clwb tan 2019.

Mae Williams, 31, yn gadael Abertawe, lle mae wedi bod yn chwarae ers 2008.

Roedd yr Elyrch wedi gwrthod cynnig o £10m am Williams yn gynharach yn y mis, ond fe wnaethon nhw dderbyn y cynnig uwch yr wythnos hon.

Mae wedi chwarae mwy na 300 o gemau i Abertawe ers ymuno am £300,000 o Stockport.

Straeon perthnasol