Cymru, gwlad y jazz?

brecon jazz

Ers dros 30 mlynedd mae seiniau cerddorion jazz i'w clywed bron ymhob twll a chornel yn Aberhonddu. Dros y blynyddoedd mae artistiad byd enwog fel Van Morrison, Jools Holland a George Melly wedi perfformio yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu sy'n cael ei chynnal eleni ar benwythnos 12-14 Awst.

Ond pa mor iach yw'r sin jazz yng Nghymru heddiw? Mae Rhys Taylor o Aberystwyth yn gyn-enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel ac yn gerddor jazz blaenllaw. Bu'n trafod y sefyllfa gyda Cymru Fyw:


Sin ffrwythlon

"Dwi ddim yn siŵr faint o bobl sy'n ymwybodol o'r sin jazz yng Nghymru, heblaw am y rhai sy'n ymddiddori yn jazz yn benodol, ond mae'n sin eitha' ffrwythlon yng Nghymru ar y funud," meddai Rhys.

"Mae digwyddiadau fel Jazz Aberhonddu yn bwysig, ac efallai bod gwyliau fel hyn yn arddangos jazz sydd bach yn fwy accessible i'r cyhoedd yn gyffredinol, yn hytrach na cherddoriaeth jazz benodol sy'n apelio i adran arbennig o bobl.

"Yn lle cynnal un digwyddiad mawr fel Jazz Aberhonddu efallai bydde'n well cael gwyliau jazz llai, ond eu cynnal yn fwy aml.

"Mae Jazz Aberhonddu yn denu artisitaid mawr iawn, ac mae hyd yn oed yr artistiaid sydd ddim mor adnabyddus yn ffantastig. Ond gyda'r sefyllfa ariannol sydd ohoni nawr, falle nad ydyn nhw'n gallu denu'r enwau mwyaf erbyn hyn.

"Dwi'n credu efallai fod hynny'n rhywbeth da gan ei fod yn golygu fod artistiaid eraill yn cael y cyfle i fynd i ŵyl gydag enw mawr a phwysig, a bod o ddim i'r enwau mawr yn unig. Mae'n gyfle gwych i fandiau llai, bandiau ifanc ac efallai unigolion sy'n trio ei gwneud hi yn y byd jazz."

Image caption Amy Winehouse, Dionne Warwick a Gregory Porter; rhai o'r enwau mawr sydd wedi perfformio yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu

Mae Rhys wedi perfformio o amgylch y byd, felly sut mae'r cynulleidfaoedd jazz yng Nghymru yn cymharu â gwledydd eraill?

"Mae 'na wahanol werthfawrogiad i gerddoriaeth jazz mewn gwledydd gwahanol. Byddwn i'n dweud mai'r lle amlwg yw Efrog Newydd gan fod y traddodiad jazz mor gryf yno, ac mae 'na glybiau jazz yno sydd ar agor 24 awr y diwrnod. Mae'r sin jazz a blŵs yn gryf iawn yn y ddinas, a dydy hynny ddim wedi newid o gwbl ers y 60 neu'r 70 mlynedd diwethaf.

"Dwi'n siŵr pe bai gwlad fel Cymru'n cael mwy o glybiau, bariau a thafarnau jazz bydde'r cerddoriaeth yn cael yr un gwerthfawrogiad â'r clybiau yn America.

"Ond mae ganddon ni ein traddodiad eisteddfodol ac ati, a gwyliau pop fel Gŵyl Arall a Gŵyl Rhif 6 lan ym Mhortmeirion. Falle nad y'n ni yn rhoi digon o amlygrwydd i gerddoriaeth jazz. Dwi'n gwbod bod 'na le i chwarae bach mwy o jazz yn y wlad 'ma. Os bydde'r Cymry yn clywed y jazz dwi'n credu bydde nhw'n ei werthfawrogi gymaint ag unrhyw gynulleidfa yn y byd."

Image caption Mae Rhys wedi gweithio fel cyfarwyddwr cerdd ar sioeau fel 'West Side Story', 'My Fair Lady' a 'Charlie and the Chocolate Factory'.

Cafodd Rhys ei urddo gan Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn 16 oed. Ond oes mwy y gallen ni ei wneud i gydnabod artistiaid jazz yng Nghymru?

"Mae 'na ffin denau iawn rhwng cydnybyddiaeth ac ymwybyddiaeth - os bydde proffil jazz yn uwch yma fe fyddai mwy o gydnybyddiaeth efo pawb arall yn y sin gerddorol Gymreig. Cafodd Wyn Lodwick ei urddo gan yr Eisteddfod eleni, mae'n un o'n cerddorion jazz amlycaf ni, ac yn glarinetydd fel fi.

"Ond dwi'n credu fod angen mwy o gyfleon i ni fel Cymry i chwarae jazz. Dwi ddim yn gwbod os yw 'jazz Cymreig' yn bodoli ond os oes cyngherddau jazz yn cael eu cynnal yn yr iaith Gymraeg dwi'n siŵr y bydde ni'n elwa, ac yn cynyddu amlygrwydd jazz. Dwi ddim yn credu bod neb yn edrych lawr ar jazz, ond dydi pobl ddim yn gwbod amdano yn gyffredinol.

"Os sbiwch ar raglen mainstream Gymreig fel 'Noson Lawen', y cyfan ni'n clywed yw cerddoriaeth draddodiadol a caneuon o sioeau cerdd a cherddoriaeth pop Cymraeg. Mae hynny'n grêt, ond petai mwy o sylw i artistiaid jazz bydde pobl yn meddwl "Duw mae hwn efo ni yng Nghymru" a wedyn wrth gwrs bydde'r ymwybyddiaeth yn cynyddu a bydde mwy o sylw yn cael ei roi iddo.

Image copyright S4C
Image caption Capital City Jazz yn perfformio ar 'Band Cymru'

"Dwi ddim yn credu bod jazz yn cael ei roi naill ochr yng Nghymru, ond fe wnaeth e fy nharo i nos Sadwrn yn yr Eisteddfod y Fenni, bod pobl wedi cael sioc ar yr ochr orau bod hi'n bosibl cynnal cyngerdd hollol Gymraeg yn steil Big Band."

Sut felly mae cael mwy o bobl ifanc i ymddiddori mewn jazz?

"Mae gan Ysgol Tryfan, Bangor, fand jazz sy'n cystadlu mewn eisteddfodau ers blynydde, ac mae hynny'n ffantastig," meddai. "Mae'r rhaglen Band Cymru ar S4C wedi rhoi llwyfan i fandiau jazz, felly dwi yn gobeithio bydd gwybodaeth pobl o jazz yn cynyddu.

"Pwy a ŵyr efallai y byddai cystadleuaeth jazz yn Eisteddfod yr Urdd neu'r Eisteddfod Genedlaethol yn hwb i'r sin jazz yng Nghymru, achos dwi'n ffyddiog iawn pwy bynnag fyddai'n cystadlu y byddai pobl yn cael siom ar yr ochr orau o'r safon bydde'n cael ei arddangos.

"Mae'r llwyfan yn barod gyda Eisteddfodau, ac efallai bod hwnna'n un llwybr y dyle ni ei ystyried."