Ffyrdd: Cynghorau Cymru yn gwario dros £30m ar dyllau

Twll

Yn ôl y Gymdeithas Foduro - yr RAC - mae angen mwy o arian er mwyn atal dirywiad ffyrdd yng Nghymru.

Daw hyn yn sgil ymchwil gan raglen Newyddion 9 y BBC oedd yn dangos bod cynghorau yng Nghymru wedi gwario dros £30 miliwn mewn taliadau iawndal oherwydd damweiniau gafodd eu hachosi gan dyllau yn y ffyrdd.

Fe wnaeth 18 o gynghorau ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth gan roi manylion gwariant, gan gynnwys iawndal a'r gost o atgyweirio.

Dywedodd cynghorau Abertawe a Cheredigion eu bod wedi gwario dros £5 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd yn atgyweirio tyllau yn dilyn cwynion gan y cyhoedd a hefyd mewn taliadau iawndal.

Dywedodd Ed Evans o'r RAC fod nifer y galwadau gan bobl sydd wedi cael damwain ar ôl taro yn erbyn twll wedi dyblu mewn cyfnod o ddeg mlynedd.

"Bob blwydd mae yna gynnydd yn nifer bobl sy'n cael damweiniau o ganlyniad i dyllau yn y ffyrdd," meddai.

"Yn hytrach na just ymateb mewn panig a thrwsio yn ôl y galw, mae angen i'r cynghorau drefnu rhaglen ar gyfer gwella ffyrdd a chynnal safonau.

"Mae angen mynd i'r afael â'r broblem o'r cychwyn.

"Pe bai chi'n gadael i'r broblem barhau yna gewch chi gais am iawndal ar ôl damwain a bydd yn dal yn rhaid i chi wneud y gwaith atgyweirio, a bydd yn gost llawer yn uwch na phe bai chi wedi ymateb i'r broblem ar y dechrau. "

Ond dywedodd llefarydd ar ran Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod ffigyrau diweddar yn dangos fod canran y ffyrdd mewn cyflwr gwael yng Nghymru wedi gostwng.

"Mae hynny'n berfformiad anhygoel gan y cynghorau, pan rydych yn ystyried y pwysau sydd ar eu cyllidebau," meddai'r llefarydd.

Roedd y cynghorau, meddai, yn gwneud popeth i geisio sicrhau fod ffyrdd Cymru o'r safon uchaf posib ond ychwanegodd "mae llywodraeth leol yn wynebu mwy nag eu siâr o ganlyniad i'r polisïau llymdra, ac mae disgwyl iddynt weld lleihad yn eu cyllideb o dros £900m erbyn 2019-20."

Image caption Fe wnaeth cynghorau Cymru wario £30m ar ianwdal a gwaith atgyweirio ffyrdd

Fe wnaeth 18 o'r 22 cyngor sir yng Nghymru ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth ac mae'r ffigyrau ar gyfer y blynyddoedd 2011-16.

Abertawe wariodd y cyfanswm mwyaf sef £5.52 miliwn, gyda Cheredigion yn gwario £5.41 m.

Cafodd un unigolyn yng Ngheredigion iawndal o £83,264 wedi anaf ar ôl syrthio dros dwll mewn ffordd.

Fe fethodd cynghorau Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Gwynedd a Chaerdydd a darparu'r wybodaeth berthnasol.