Borja Baston yn ymuno ag Abertawe o Atletico am £15.5m

Borja Baston

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo'r ymosodwr Borja Baston o Atletico Madrid am £15.5m.

Mae'r Sbaenwr 23 oed wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd o hyd gyda'r Elyrch.

Sgoriodd 18 o goliau yn La Liga y tymor diwethaf tra ar fenthyg gydag Eibar.

Daw'r trosglwyddiad ar ôl i Abertawe arwyddo Sbaenwr arall, Fernando Llorente, o Sevilla.

Dywedodd y clwb y byddai Borja ar gael ar gyfer gêm gynta'r tymor yn erbyn Burnley ddydd Sadwrn.