Morgannwg allan o gystadleuaeth y T20 Blast

Jacques Rudolph Image copyright Getty Images
Image caption Jacques Rudolph oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda 26

Mae Morgannwg allan o gystadleuaeth y T20 Blast ar ôl colli'n drwm i Sir Efrog yn Stadiwm Swalec.

Fe fatiodd yr ymwelwyr gyntaf a llwyddo i sgorio 180 o rediadau am wyth wiced, gyda David Willey yn cael 79.

Cymerodd Colin Ingram bedwar wiced i Forgannwg, gyda Tim van der Gugten hefyd yn hawlio dau wiced wrth i fowlwyr y tîm cartref orffen yn gryf.

Ond fe gollodd Morgannwg eu batiwr agoriadol David Lloyd yn y belawd gyntaf, ac roedd hi'n 34-5 erbyn diwedd y chweched pelawd wrth i Mark Wallace, Aneurin Donald, Colin Ingram a Graham Wagg hefyd ddychwelyd i'r eisteddle.

Fe orffennodd y tîm cartref allan i gyd am 90 rhediad, gyda Jacques Rudolph yn sgorio 26.