Llys yn dweud 'na' i gau ysgol Gymraeg yn Sir Ddinbych

Ysgol Pentrecelyn Image copyright Google

Mae ymgyrchwyr wedi hawlio buddugoliaeth wedi i'r Uchel Lys herio penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i gau Ysgol Pentrecelyn.

Roedd y cyngor wedi bwriadu cau'r ysgol Gymraeg fechan yn Rhuthun a'i huno gydag ysgol ddwyieithog Llanfair Dyffryn Clwyd.

Ond dywedodd yr Uchel Lys bod penderfyniad y cyngor yn "anobeithiol o ddryslyd".

Cafwyd beirniadaeth o'r broses ymgynghori a methiant y cyngor i asesu'r effaith ar yr iaith Gymraeg yn ddigonol, gyda'r llys hefyd yn dweud bod "gwahaniaethau sylweddol" rhwng y fersiynau Saesneg a Chymraeg o'r un dogfennau cyhoeddus.

Pwysleisiodd dyfarniad y llys fodd bynnag bod penderfyniad y cyngor wedi'i wyrdroi ar sail y broses yn hytrach nag egwyddor, ac mai'r cyngor fydd yn penderfynu beth fydd eu camau nesaf.

"Mae hwn yn ganlyniad hanesyddol, yn sicrhau nad yw Cyngor Sir Ddinbych yn cael israddio categori iaith ysgol ein plant yn dilyn proses mor ddiffygiol, yn llawn camgymeriadau sylfaenol," meddai Nia Môn, rhiant sydd yn cynrychioli Ymgyrch Pentrecelyn.

"Mae wedi bod yn frwydr hir a chostus, ond nid ein bwriad wrth gyfreitha oedd gwarchod buddiannau ein plant ni'n unig; roeddem hefyd yn ceisio amddiffyn addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer Cymru gyfan."

Un arall i groesawu'r dyfarniad ddydd Gwener oedd yr actor Rhys Ifans, sydd yn enedigol o'r ardal ac yn gyn-ddisgybl o'r ysgol. Dywedodd: "Newyddion gwych iawn heddiw o blaid Ysgol Pentrecelyn ag addysg Gymraeg yn gyffredinol.

"Gobeithio yn wir rwan yn gwneith Cyngor Sir Ddinbych gymryd sylw o'r dyfarniad hwn a cefnogi addysg Gymraeg ymhellach yn y dyfodol."

Llywodraethwyr

Mewn datganiad, dywedodd Corff Llywodraethol Ysgol Pentrecelyn eu bod yn derbyn canlyniad yr Adolygiad Barnwrol, gan ychwanegu:

"Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn proses ymgynghorol eto ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych. Ers dechrau adolygiad Ysgolion Ardal Rhuthun rydym wedi bod yn awyddus i ddiogelu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

"Roeddem yn cydweithio'n llawn ac yn gefnogol i benderfyniadau blaenorol Cyngor Sir Ddinbych ac rydym wedi trafod gyda nhw bob cam o'r ffordd. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno tystiolaeth ynglŷn â'n pryderon am gynaliadwyaeth tymor hir cynnig addysg ddwyieithog wrth i'r ysgol dyfu mewn maint, a'r rheswm pam yr ydym yn teimlo y dylai'r ysgol ardal newydd fod yn un Categori 1 cyfrwng Cymraeg."

Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd eu bod nhw'n siomedig â phenderfyniad y llys.

"Er ei fod yn ymwneud â'r broses, mae dal yn mynd yn groes i ewyllys democrataidd y rhan fwyaf o rieni sydd o blaid gweld ysgol ddwyieithog newydd yn yr ardal," meddai Geraint Lewis Jones.

"Rydym yn gobeithio na fydd yr ymgyrch yma, gafodd ei throi'n un wleidyddol ac sydd wedi arwain at yr adolygiad barnwrol, yn peryglu'r broses o greu ysgol ardal newydd sydd wir ei angen ar y gymuned."

Image caption Bu ymgyrchwyr yn protestio y llynedd yn erbyn bwriad y cyngor i gau Ysgol Pentrecelyn

'Hanesyddol i'r Gymraeg'

Y llynedd fe gyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych eu bwriad i uno Ysgol Pentrecelyn, oedd â 56 o ddisgyblion, gydag Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd.

Byddai'r ysgol newydd yn un ddwyieithog ac wedi'i leoli mewn adeilad newydd ar safle gwahanol.

Fe gynhaliodd y cyngor asesiad i effeithiau ieithyddol a chymunedol y cynllun, yn unol â chanllawiau o Lywodraeth Cymru ynglŷn â chau ysgolion Cymraeg.

Ond mynnodd yr ymgyrchwyr bod yr asesiad wedi cael ei chynnal ar y cynllun dros dro yn unig, oedd yn cynnwys cadw'r disgyblion ar eu safleoedd presennol, ac nid y cynllun yn ei gyfanrwydd.

"Dyma'r tro cyntaf i rywun gychwyn achos cyfreithiol er mwyn ceisio rhwystro ysgol cyfrwng Cymraeg rhag cael ei chau," meddai Gwion Lewis, bargyfreithiwr yn Landmark Chambers oedd yn cynrychioli Ymgyrch Pentrecelyn yn y llys.

"Bu'n werth yr ymdrech gan fod y llys wedi cytuno bod sawl agwedd ar benderfyniad y cyngor yn anghyfreithlon; mae'r llys wedi datgan, felly, na ellir cau'r ysgol fel y bwriedid.

"Bydd awdurdodau addysg leol ledled Cymru yn awyddus i astudio'r dyfarniad hwn yn ofalus gan ei fod yn pwysleisio'r angen i gwblhau asesiad credadwy o'r effeithiau ieithyddol a chymunedol, unrhyw bryd y bwriedir newid y trefniadau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg."

Wrth ymateb i'r dyfarniad fe ddywedodd Cyngor Sir Dinbych eu bod yn "siomedig gyda phenderfyniad yr adolygiad barnwrol" ond mai "nam gweithdrefnol" oedd yn gyfrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Bydd y cyngor yn cymryd ei amser i ystyried ei sefyllfa ac yn adlewyrchu ar y dyfarniad a chanllaw a roddwyd gan y llys.

"Byddwn yn cyflwyno cynigion i barhau i weithredu'r weledigaeth o gael addysg o'r radd flaenaf yn yr 21ain Ganrif i holl ddisgyblion ysgol."