Anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ym Mhentraeth, Môn

Pentraeth Image copyright Google

Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad ar Ynys Môn lle cafodd dyn lleol anafiadau difrifol.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5025 yng nghanol Pentraeth am 02:15 fore Gwener 12 Awst.

Fe wnaeth dyn lleol yn ei 20au ddioddef anafiadau ac yn ôl yr heddlu gallai'r rhain fod yn anafiadau fydd yn "newid ei fywyd".

Roedd y dyn yn teithio mewn Ford Mondeo du ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101.