Y Cymro Emyr Huws yn ymuno â Chaerdydd o Wigan

Emyr Huws Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Emyr Huws wedi cynrychioli Cymru ar saith achlysur, gan sgorio unwaith

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Emyr Huws wedi ymuno â Chaerdydd o Wigan ar gytundeb tair blynedd.

Roedd y gŵr 22 oed o Lanelli ar fenthyg yn Huddersfield y llynedd, gan sgorio pum gwaith mewn 29 o gemau.

Roedd Huws yn rhan o garfan hyfforddi Cymru ar gyfer Euro 2016, ond ni lwyddodd i wneud y garfan derfynol o 23 o chwaraewyr.

"Mae hi'n grêt bod yn ôl yn ne Cymru ac rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â chlwb mawr fel Caerdydd," meddai.

"Rydw i'n 'nabod y rhan fwyaf o'r staff hyfforddi oherwydd y cysylltiadau gyda Chymru, a dydw i methu disgwyl i gwrdd â gweddill y bechgyn a dechrau arni."