Carchar i ddyn am achosi marwolaeth tri ffrind wrth yrru

John Spencer Graham Image copyright Wales News Service
Image caption John Spencer Graham

Mae dyn 21 oed wedi ei garcharu am achosi marwolaeth tri o'i ffrindiau trwy yrru'n ddiofal.

Cafodd John Spencer Graham ei ddedfrydu i 10 mis o garchar yn Llys y Goron Merthyr ddydd Gwener wedi iddo gyfaddef i dri chyhuddiad o yrru'n ddiofal.

Bu farw Ryan Paul Gibbons, 20 oed, a Gethin Rhys Jones, 18 oed, yn y fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad ar ffordd Aberdar, Merthyr Tudful, ar 11 Hydref 2015.

Cafodd Joe Daniels, 18 oed o Gilfach, Bargoed, anafiadau difrifol a chafodd driniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond bu farw 30 diwrnod yn ddiweddarach. Roedd pum dyn yn teithio yn y car Seat Ibiza gwyn oedd yn cael ei yrru gan John Spencer Graham pan darodd bostyn telegraff.

Cafodd y cyhuddiad yn ei erbyn o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ei ollwng, ac fe fydd y dyfarniad o 10 mis o garchar i bob un o'r tri chyhuddiad yn cydredeg.

Mae wedi ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd hefyd.

Image copyright Wales News Service
Image caption Gethin Rhys Jones a Ryan Paul Gibbons.
Image copyright Wales News Service
Image caption Joe Daniels
Image caption Tarodd y car yn erbyn polyn ar Ffordd Abderdâr ym Merthyr Tudful ar 11 Hydref 2015.

Straeon perthnasol