Addewid i warantu cyllid o Ewrop 'ddim yn ddigon'

carwyn
Image caption Er bod y cyhoeddiad yn 'gam i'r cyfeiriad cywir', meddai Carwyn Jones, 'nid yw'n ddigon'

Bydd y Trysorlys yn cyhoeddi gwarant ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd ddydd Sadwrn, ond dyw ddim yn mynd yn ddigon pell, yn ôl Carwyn Jones.

Mae disgwyl i'r Canghellor Phillip Hammond ddweud y bydd nifer o brosiectau sydd wedi eu cymeradwyo cyn datganiad yr Hydref yn parhau i gael eu hariannu yn dilyn Brexit.

Ond dywedodd Prif Weinidog Cymru mai "dim ond tua hanner" y cyllid rhanbarthol sy'n cael ei warantu.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn honni bod y cyhoeddiad yn darparu "sicrwydd".

Ond yn ôl Plaid Cymru does "dim yn newydd" yn y cyhoeddiad.

Mae disgwyl i'r Trysorlys gyhoeddi ddydd Sadwrn:

  • bod yr holl brosiectau sy'n cael eu hariannu gan gronfeydd strwythurol yr undeb fydd wedi eu harwyddo cyn datganiad yr hydref yn cael eu cyllido'n llawn, hyd yn oed pan mae'r prosiectau yn parhau ar ôl Brexit
  • y bydd "trefniadau yn eu lle" i asesu p'unai i warantu cyllid ar gyfer cyllido prosiectau penodol a fydd o bosib yn cael eu harwyddo ar ôl y datganiad, ond dim ond tra bod y DU yn parhau yn aelod o'r UE
  • bod y lefel cyllido amaeth ar hyn o bryd, o dan y polisi amaethyddol cyffredin, yn parhau tan 2020, cyn i drefniadau newydd y DU gael eu cyflwyno
  • eu bod am warantu'r prosiectau yn ariannol sydd wedi gwneud cais i'r Comisiwn Ewropeaidd, fel prifysgolion, hyd yn oed os ydi'r prosiectau yn parhau ar ôl Brexit
Image caption Mae sefydliadau eisiau sicrwydd, meddai'r Canghellor Phillip Hammond

Dywedodd Mr Hammond: "Rydym yn cydnabod bod nifer o sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig sy'n derbyn arian Ewropeaidd, neu fydd yn dechrau derbyn cyllid, eisiau sicrwydd am yr arian y bydden nhw'n dderbyn."

Mae Mr Jones wedi galw ar y lefelau cyllido presennol i'w cael eu cynnal yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd bod y cyhoeddiad yn "gam i'r cyfeiriad iawn" ac yn rhoi "rhywfaint o sicrwydd i fusnesau, sefydliadau a chymunedau sy'n derbyn cyllid yr UE", ond fe rybuddiodd, "nid yw'n ddigon".

Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru: "Dim ond tua hanner y cyllid rhanbarthol (sy'n) dod i Gymru mae'r gwarant hwn yn rhoi sylw iddo, ac nid yw'n darparu'r sicrwydd tymor hir sydd ei angen ac a addawyd cyn y refferendwm."

Gan alw ar fwy o fanylion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd: "Mae'n rhaid i ni gael 'gwarant llawn' y bydd cyllid yn parhau ar gyfer ein rhaglenni UE presennol hyd at 2023."

Dywedodd Mr Cairns: "Bydd cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd wrth i ni baratoi i adael yr UE ac mae'n newyddion da i Gymru."

Mynnodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid, Mark Drakeford nad dyma'r amser i ddechrau ailystyried dyfodol rhai o'r prosiectau mae'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn ei gyllido:

"Fyddwn ni ddim yn dilyn y trywydd hwnnw," meddai wrth raglen Good Morning Wales, Radio Wales.

"Pan bleidleisiodd pobl ar 23 Mehefin, fe gawson nhw addewidion gan y rheiny oedd eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd y byddai pob ceiniog o gyllid sydd yn dod i Gymru o Ewrop yn cael ei warantu petaen ni'n gadael."

Faint o arian mae Cymru'n ei dderbyn gan yr UE?

Mae disgwyl i Gymru dderbyn £1.89bn rhwng 2014-2020 mewn cronfeydd strwythurol.

Dyma arian sy'n cael ei roi i ranbarthau tlotaf yr Undeb Ewropeaidd gan geisio rhoi hwb economaidd i'r ardaloedd hynny.

Dyw ddim yn glir faint o'r arian fydd yn cael ei amddiffyn gan gynigion y canghellor.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi ymrwymo tua £830m o gyllid yr UE hyd yma, gyda gwerth £375m wedi cyrraedd y "cam datblygiad manwl".

Ond mae hi eisiau gallu gwneud penderfyniad cyllido "cyn gynted â phosib".

Mae Cymru hefyd yn cael £200m y flwyddyn o'r Polisi Amaeth Cyffredin, yn ogystal â £957m o'r Rhaglen Datblygu Gwledig rhwng 2014 a 2020.

Mae hynny'n cynnwys £400m sy'n dod ar y cyd gan Lywodraeth Cymru.

O hwnnw mae £503m wedi cael ei fuddsoddi, gyda £346m yn dod o'r UE.

Nid yw'r gwarant yn cynnwys prosiect gwerth £600m y Metro ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd de Cymru, meddai Llywodraeth Cymru.

'Ymddiheuro'

Yn ôl AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, "does dim yn newydd yn y cyhoeddiad - mae'r prif weinidog eisoes wedi cadarnhau bod cyllid yn ei le tan 2020".

Ond mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, yn dweud ei bod yn amser i Carwyn Jones "ymddiheuro i bobl Cymru am geisio eu dychryn i bleidleisio dros Aros".