Menyw wedi ei hachub o dŷ oedd ar dân yn Sir y Fflint

Injan dan Image copyright SFRS

Mae menyw 81 oed wedi ei hachub wedi i'w thŷ fynd ar dân.

Cafodd criwiau tân eu galw fore Sadwrn i fyngalo ym mhentref Gronant ger Prestatyn ac fe lwyddon nhw i ddiffodd y tân.

Fe aeth y fenyw i Ysbyty Glan Clwyd ac mae ei chyflwr wedi gwella.

Mae ymchwiliad wedi dechrau er mwyn darganfod beth achosodd y tân.