Buddugoliaeth i Abertawe yn gêm gyntaf y tymor

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Leroy Fer oedd sgoriwr gôl Abertawe

Burnley 0-1 Abertawe

Mae Abertawe wedi ennill gêm agoriadol eu tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr diolch i gôl gan Leroy Fer.

Fe rwydodd y chwaraewr canol cae unig gôl y gêm gydag wyth munud i fynd wrth i'r Elyrch ennill oddi cartref yn erbyn Burnley.

Roedd rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin wedi dewis Fernando Llorente a Modou Barrow ar gyfer yr ornest agoriadol yn erbyn tîm oedd newydd gael eu dyrchafu o'r Bencampwriaeth.

Dechreuodd Jordi Amat yn yr amddiffyn yn dilyn ymadawiad Ashley Williams, gyda Leon Britton yn gapten ar y tîm, tra bod Stephen Kingsley wedi'i ddewis fel cefnwr chwith yn lle Neil Taylor.

Llwyddodd Abertawe i fygwth yn gynnar, gyda Llorente yn cael cyfleoedd a'r asgellwr Barrow hefyd yn edrych yn beryglus.

Fe fethodd Wayne Routledge gyfle gorau'r Elyrch yn yr hanner cyntaf wrth iddo daro foli heibio i'r postyn o groesiad Barrow.

Cyfleoedd yn yr ail hanner

Ond roedd yn rhaid i Fabianski hefyd fod yn effro wrth wneud arbediad oddi wrth fygythiad pennaf Burnley, yr ymosodwr Andre Gray.

Y tîm cartref gafodd y cyfleoedd gorau ar ddechrau'r ail hanner gyda Dean Marney, Andre Gray a'r Cymro Sam Vokes i gyd yn mynd yn agos.

Ond fe drodd y gêm ar ôl i Gylfi Sigurdsson a Jefferson Montero ddod ymlaen fel eilyddion i'r Elyrch, ac fe fethodd Llorente a'r amddiffynnwr Federico Fernandez gyfleoedd da.

Croesiad gan Montero oedd yn gyfrifol am y gôl fuddugol wrth i beniad Llorente gael ei arbed gan y golwr Tom Heaton, ac roedd Fer yno gyntaf i sgorio'r ail gyfle.

Bu'n rhaid i golwr Abertawe Lukasz Fabianski arbed cic rydd hwyr gan Johann Berg Gudmundsson ond fe lwyddodd yr Elyrch i ddal ymlaen ar gyfer y tri phwynt.