Siom i Wrecsam ar ôl colli yn erbyn Aldershot

Image copyright Getty Images
Image caption Fe anfonodd Gary Mills dri eilydd i'r cae ar gyfer yr ail hanner er mwyn ceisio troi'r ornest o blaid Wrecsam

Aldershot 2- 0 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi colli eu gêm gynghrair gyntaf y tymor yma oddi cartref yn Aldershot.

Fe rwydodd yr asgellwr Shamir Fenelon i'r tîm cartref ar ôl tri munud yn unig wedi i gapten Wrecsam, Shaun Newton ildio'r meddiant.

Cafodd yr ail ei hychwanegu gan Scott Rendell ar ôl 58 munud.

Cyn y gêm hon roedd Wrecsam wedi ennill un a chael un canlyniad cyfartal yn y Gynghrair Genedlaethol.

Roedd yr ymosodwr Gerry McDonagh yn dechrau ei gêm gyntaf dros y Dreigiau ers symud ar fenthyg o Nottingham Forest.

Ond yn dilyn perfformiad yr hanner cyntaf fe wnaeth rheolwr Wrecsam Gary Mills benderfyniad dewr yn ystod yr egwyl gan ddod â thri eilydd ymlaen ar gyfer yr ail hanner, gyda Callum Powell, Michael Bakare a Nortei Nortey yn dod i'r cae yn lle Tyler Harvey, Jordan Evans ac Anthony Barry.

Ni lwyddodd hynny i newid y canlyniad, gyda chroesiad Bernard Mensah yn creu ail gôl Aldershot i Rendell.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn llithro i'r seithfed safle yn y gynghrair.