Y bowlwyr yn cael y llaw uchaf

Michael Hogan Image copyright Getty Images
Image caption Michael Hogan yn dathlu

Y bowlwyr gafodd y llaw uchaf ar lain anodd yn y gêm rhwng Morgannwg a Sir Gaerwrangon yn Lloegr.

Ar y diwrnod cyntaf, 118 am 5 llafurus oedd ymateb Morgannwg i'r 163 a sgoriodd y tîm cartref.

Ar un adeg roedd Sir Gaerwrangon yn 36 am bump wrth i fowlwyr cyflym y tîm Cymreig chwalu'r batwyr.

Michael Hogan oedd a'r ffigyrau gorau- pedair wiced am 44 rhediad.

O ran batwyr Morgannwg Will Bragg wnaeth ddisgleirio-75 heb fod allan.