Damwain: Menyw wedi ei hanafu yn ddifrifol ger Llangiwa

Heddlu

Mae menyw wedi ei hanafu'n ddifrifol wedi gwrthdrawiad rhwng beic modur a Land Rover ar yr A465 ger Llangiwa yn Sir Fynwy.

Cafodd yr heddlu ei galw am 14:45 brynhawn dydd Sadwrn ac fe gafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i lygaid dystion gysylltu trwy ffonio 101.