Grwpiau iaith brodorol i gydweithio wedi Brexit

Arwydd
Image caption Arwyddion yn Gernyweg

Mae grwpiau iaith wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd sy'n dweud y byddan nhw'n cydweithio er budd eu hieithoedd Celtaidd yn dilyn canlyniad refferendwm Ewrop.

Daw yn sgil trafodaethau rhwng mudiadau iaith o Gymru, Cernyw, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw a'r Alban yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni.

Mae'r grwpiau yn cynnwys Cymdeithas yr Iaith, Kesva an Taves Kernewek, Conradh na Gaeilge a Comunn na Gàidhlig.

Maen nhw yn credu bod angen amddiffyn eu hieithoedd am fod etholwyr Prydain ym mis Mehefin wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywed y proclamasiwn fod nawr yn gyfnod "cymhleth" yn dilyn y bleidlais ac yn gyfnod "ansicr".

Maen nhw yn darogan na fydd nawdd Ewropeaidd ar gael i gefnogi ieithoedd lleiafrifol yn y dyfodol.

O ganlynaid, mae hyn am olygu y bydd yn rhaid iddyn nhw ymgyrchu yn fwy caled er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael bob chwarae teg, meddai nhw.

Mae'r mudiadau iaith yn galw ar Lywodraeth San Steffan i gynnal y nawdd sydd yn cael ei rhoi ar hyn o bryd gan yr UE.

Dywed y proclamasiwn hefyd: "­Byddwn yn defnyddio p­ob dull a modd heddyc­hlon o fewn ein gallu­ i wrthsefyll anghy­fiawnder ac i sicrhau­ tegwch ariannol, gwl­eidyddol a diwylliann­ol ar gyfer ein cymun­edau ieithyddol."

Mae'r mudiadau iaith hefyd yn dweud eu bod yn gwrthwynebu'r penderfyniad ym mis Ebrill i ddiddymu'r nawdd sydd yn cael ei rhoi i gefnogi'r Gernyweg.

Roedd cyngor Cernyw yn derbyn hyd at £150,000 bob blwyddyn er mwyn cefnogi'r iaith a hynny ers 2003 pan gafodd y Gernyweg ei chydnabod fel iaith leiafrifol.

Ond fe ddywedodd Llywodraeth San Steffan ar y pryd ei bod "wedi ymrwymo i Gernyw".

Yn ôl Tim Saunders, sy'n siarad Cernyweg, mae'r proclamasiwn yn "amserol iawn" yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae'r sefyllfa yn creu ansirwcydd, yn tanseilio hyder pobl ac yn berygl mawr i'r ymdrech gan filoedd o bobl dros y blynyddoedd," meddai.