Kizzy Crawford wedi colli ei gitâr newydd

Kizzy Image copyright Kizzy Crawford
Image caption Kizzy efo'r gitâr newydd

Mae'r gantores a'r cyflwynydd Kizzy Crawford wedi dechrau ymgyrch i ddod o hyd i'w gitâr ar ôl iddi ei cholli wythnos yn unig ers ei phrynu.

Roedd Kizzy wrthi yn ffilmio ei chân newydd ym Merthyr Mawr, Pen-y-bont ac ar ôl gadael y lleoliad fe gofiodd ei bod wedi anghofio ei gitâr.

Erbyn iddi fynd yn ôl roedd y gitâr Martin gwerth ryw £500 wedi diflannu.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Fi mor ypset, hollol gutted a'r ffaith bod fi mond wedi cael e ers wythnos. Mae e'r gitâr gorau dw i erioed wedi cael."

"Fi wedi bod yn defnyddio fe ar gyfer gigs ac mae'r sain yn berffaith i fi."

Mae'n dweud ei bod hefyd yn rhwystredig gyda'i hun am anghofio'r offeryn.

Mae Kizzy wedi rhannu'r newyddion ar ei gwefan Facebook a Twitter yn y gobaith y bydd rhywun yn cysylltu gyda newyddion da:

"Mae lot o bobl wedi rhannu'r Facebook post ond does neb wedi dweud bod nhw wedi ei weld.

"Fi dal yn chwilio ac yn gobeithio cael y gitâr yn ôl."