Craen yn achosi ciw o hyd at 15 milltir ar yr M4

ciw Image copyright Traffic Cymru

Mae ciw o hyd at 15 milltir ar yr M4 yn ne Cymru ar ôl i graen 60 tunnell dorri lawr.

Roedd heddlu wedi cau un lôn rhwng cyffordd 25 (Caerllion) a 24 (Coldra), ond mae honno wedi ailagor erbyn hyn.

Mae rhybudd i deithwyr fod yn barod am hyd at awr o oedi.

Mae'r traffig yn ciwio o gyffordd 29 yn dilyn y digwyddiad.