Rio: Becky James yn gosod record Olympaidd newydd

James
Image caption Becky James yn dathlu ennill y fedal arian gyda'i theulu a'i chariad, George North

Mae'r Gymraes Becky James wedi gosod record Olympaidd newydd yn y ras wibio yn Rio, gan gyrraedd rownd yr 16 olaf.

Fe orffennodd y seiclwr trac 24 oed o'r Fenni mewn 10.721 eiliad, gan orffen gyflymaf yn erbyn y cloc a bydd hi'n rasio nesa' ddydd Llun am 14:00.

Cafodd record Victoria Pendleton ei gosod yn ystod Gemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Fe wnaeth James ennill medal arian yn y keirin ddydd Sadwrn.