Anafiadau i 10 o feicwyr wedi gwrthdrawiad ger Aberystwyth

The B4340 Image copyright Google

Roedd 10 o feicwyr angen triniaeth yn yr ysbyty ar ôl gwrthdaro yn erbyn ei gilydd yng Ngheredigion.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd y B4340 rhwng Aberystwyth a New Cross am tua 12:30 ddydd Sul.

Fe gafodd y beicwyr eu cludo i ysbytai Bronglais a Threforys yn Abertawe.

Er bod rhai o'r anafiadau yn rhai difrifol, nid oes unrhyw fywyd mewn perygl.